OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1099 (Cy. 109)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”). Mae’r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer talu treuliau teithio i bersonau, ymhlith eraill, sydd ar incwm isel, a pheidio â chodi ffioedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar y personau hynny, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a’u cyfalaf.
Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan Reoliadau 2007 er mwyn canfod a oes hawlogaeth gan y person hwnnw i beidio â thalu ffioedd GIG ac i gael taliad o dreuliau teithio GIG, mae fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 wedi ei chymhwyso.
Mae rheoliad 3 yn newid yr addasiad i reoliad 45 o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987, er mwyn codi’r terfyn cyfalaf rhagnodedig i £24,000 o 20 Mai 2014 ymlaen.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1099 (Cy. 109)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 26 Ebrill 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Ebrill 2014
Yn dod i rym 20 Mai 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]).
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi
Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Mai 2014.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007([2]).
Diwygio Rheoliadau 2007
3.—(1)(1) Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio fel a
ganlyn.
(2) Yng ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn yr addasiad o reoliad 45 (terfyn cyfalaf), yn lle “£23,250” rhodder “£24,000”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Ebrill 2014